-
Drewdod yn Aberaeron
Roedd yna ddrewdod dychrynllyd ar brif stryd Aberaeron y prynhawn yma. Mewn siop oeddwn i pan gefais yr arogl gyntaf ohono. Roeddwn i’n cymryd fod problem efo’r tai bach, ond sylwais wrth adael y siop fod yr arogl lawn cynddrwg yn yr awyr agored. Gwelwn gerddwyr yr ochr arall i’r ffordd yn gorchuddio eu trwynau ac yn holi ei gilydd. Sylwais fod rhyw hylif wedi tasgu ar hyd y palmant fel petai lori garthffosiaeth wedi gollwng wrth iddi basio. Efallai y caf eaboniad pellach yn rhifyn nesaf y Cambrian News.
-
Talu dirwy
Mi wnes i dalu dirwy tocyn heddlu am y tro cyntaf heddiw. Peidiwch a gofyn pam. Roeddwn i wedi oedi am rai dyddiau cyn talu’r £60 am nad oeddwn i’n siwr a oeddwn i am anfon arian parod ynteu siec drwy’r post. Fel mae’n digwydd, roedd angen llyfr sieciau newydd arna i, ac ro’n i braidd yn gyndyn i anfon arian parod rhag ofn i rhywbeth ddigwydd iddo ar y ffordd. Ac roedd hi’n ddigon anodd talu’r £60 heb orfod meddwl talu mwy eto am ‘recorded delivery’.
Dyma benderfynu dilyn cyngor yr heddwas felly a ffonio’r rhif ar y ticed. Yn Ninbych mae’r swyddfa sy’n derbyn taliadau. Peiriant ateb ges i. Roedd o’n gofyn i mi ffonio rhif arall os oeddwn i’n dymuno gwasanaeth Cymraeg. Wedi i mi ailddeialu,mi ges i ateb ar unwaith gan Gymraes. Yn hytrach na llais oeeaidd a hunangyfiawn, mi ges i sgwrs ddymunol a chartrefol efo’r ferch ar y pen arall. Pob clod i’r Heddlu felly am eu gwasanaeth ymholiadau Cymraeg. Just gobeithio na fydd angen imi ei ddefnyddio eto!
-
Survivor a chymunedau gwybodaeth (Rhagor o sylwadau ar ‘Convergence Culture’ gan Henry Jenkins)
Mae Henry Jenkins yn agor ei astudiaeth o ddiwylliant cydgyfeiriant (convergence culture) gyda’r defnyddwyr. Yr astudiaeth achos gyntaf dan sylw yw’r gymuned ar-lein o ffans y gyfres realaeth Survivor.
Rhwng ffilmio’r gyfres a darlledu’r finale, roedd carfan o ffans ymroddedig oedd yn galw eu hunain yn ‘spoilers’ yn ymgymryd a’r her o gasglu cymaint o wybodaeth a phosibl am y rhaglen, ei lleoliad, y cystadleuwyr a’r modd roedd y gystadleuaeth yn datblygu. Yr amcan oedd darganfod y wybodaeth hon ei fod yn cael ei ddatgelu’n swyddogol i’r cyhoedd wrth i’r rhaglen gael ei darlledu. Roedd aelodau’r gymuned yn mynd i drafferth mawr er mwyn cael gafael ar y wybodaeth hon ac yna ei rhannu a’i dadansoddi ar y We. Mae’n enghraifft wych o ‘gydgyfeiriant’ (convergence).
Yn hytrach nag edrych ar y wybodaeth ei hun, mae Jenkins yn adeiladu ar waith Pierre Levy trwy astudio ymddygiad ‘cymunedau gwybodaeth’ wrth iddyn nhw rannu a dilysu gwybodaeth. Mae’r astudiaeth yn ddadlennol a diddorol tu hwnt.
Un o’r pethau diddorol hynny yw cyfeiriad Jenkins at oblygiadau posibl y datblygiadau hyn pe byddai’r gymuned hon yn canolbwyntio ei hymdrechion ar ddadansoddi gwaith llywodraeth a cheisio datrys problemau ‘go iaw’. Mae’n ychwanegu ar unwaith fod gwleidyddiaeth yn dal i gael ei weld fel maes sy’n gaeth i’r hen syniad fod yn rhaid bod yn ‘arbenigwr’ er mwyn ei drafod mewn unrhyw ddyfnder. Damcaniaeth Peter Walsh yw fod yr ‘expert paradigm’, fel y caiff ei alw, yn prysur gael ei erydu gan y prosesau agored o gyfathrebu sy’n gwneud cydgyfeiriant yn bosibl. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi bod yn pendroni yn ei gylch ers tro wrth ystyried y dylanwad y caiff y We ar y byd academaidd mewn blynyddoedd i ddod, ond gwell fyddai cadw fy marn ar y mater hwnnw at rhywdro eto!Mwy am ‘Convergence Culture’ yn y man.
-

Flip Ultra HD. Enghreifftiau o recordiadau fideo yn dod yn fuan. Rydw i eisoes wedi cofnodi fy argraff gyntaf ohono (gweler isod).
-
‘Convergence Culture’ gan Henry Jenkins
Rydw i wedi dechrau darllen y llyfr ‘Convergence Culture: Where Old and New Media Collide’ gan Henry Jenkins, Athro yn y Dyniaethau a Sylfaenydd/Cyfarwyddwr y Comparative Media Studies Program yn y Massachusetts Institute of Technology (MIT).
Dydw i ddim wedi mynd ymhellach na’r ail bennod, ond yn hytrach na disgwyl tan y diwedd, rwy’n bwriadu blogio am rai o’r pethau diddorol y byddaf yn dod ar eu traws yn y llyfr wrth i mi fynd yn fy mlaen.
Y man cychwyn gorau yw diffiniad Jenkins o’r gair ‘cydgyfeiriant’ (convergence) yn y cyd-destun hwn.
Beth yw ‘cydgyfeiriant’?
‘By convergence,’ dywed Jenkins, ‘I mean the flow of content across multiple media platforms, the cooperation between multiple media industries, and the migratory behaviour of media audiences who will go almost anywhere in search of the kinds of entertainment experiences they want.’ Mae’n rhoi ystyr eang i’r gair gan gwmpasu’r technolegol, y diwydiannol, y diwylliannol a newidiadau cymdeithasol.
Pwysleisia Jenkins nad yw’r cysyniad o ‘gydgyfeiriant’ wedi’i gyfyngu i’r prosesau technolegol sy’n galluogi i wybodaeth lifo o un pwynt i’r llall. Mae hefyd yn cynrychioli shifft diwylliannol sydd ynghlwm a’r prosesau hyn. Mae’r cynnydd aruthrol mewn mynediad at wybodaeth yn annog defnyddwyr i chwilio am wybodaeth newydd a gwneud cysylltiad rhwng gwahanol ddarnau o wybodaeth sydd ar wasgar.
Dadleua fod gan y defnyddiwr unigol fynediad at ormod o wybodaeth i wneud synnwyr ohono ei hun. Dyna sy’n ysgogi defnyddwyr i siarad gyda’i gilydd am y wybodaeth maent yn ei ganfod neu dderbyn.
Wrth raid, felly, mae’r llyfr yn trin cydgyfeiriant cyfryngol (media convergence), diwylliant cyfranogol (participatory culture) a deallusrwydd gyfunol (collective intelligence) fel tri chysyniad sydd a pherthynas agos a’i gilydd.
Gwneir hynny drwy chwe astudiaeth achos, ac rwy’n gobeithio rhannu rhywbeth am bob un o’r rhain gyda chi dros yr wythnosau nesaf.
-
Argraff gyntaf o’r Flip Ultra HD
Cyrhaeddodd y Flip Ultra HD yn brydlon trwy’r post. Roedd y pecyn yn edrych yn fler, ond mae’r teclyn yn gweithio’n iawn hyd y gwela i. Roedd y Flip yn fwy na’r disgwyl. Mae o tua’r un maint ag iPhone ond yn fwy trwchus ac roedd y sgrin ar y cefn yn llai na’r disgwyl. Mae’r du a’r chrome yn edrych yn dda.
Doedd dim llyfr cyfarwyddiadau yn y bocs, dim ond ‘Quickstart Guide’. Mae’r teclyn mor hawdd i’w ddefnyddio, does dim angen cyfarwyddiadau. Unwaith mae Flip wedi’i gysylltu i’r laptop, mae’n cynnig lawrlwytho meddalwedd Flipshare. Rhaglen syml yw hon sy’n caniatau i’r defnyddiwr i drefnu a phori trwy’r fideos sydd ar y Flip a’r cyfrifiadur. Does dim llawer y gallwch ei wneud i olygu’r fideos, ond mae modd defnyddio Flipshare i lwytho’n uniongyrchol i Youtube neu eu llosgi ar DVD.
Dyna ni am y tro. Bydd enghreifftiau o fideo yn ymddangos yma yn fuan.
-
Dewis camcorder digidol: Kodak Zi8 neu Flip Ultra HD?
Angen: Camcorder i recordio deunydd fideo i safon uwch ac am gyfnod hirach na chamera digidol cyffredin. Deunydd i’w gadw a’i wylio ar gyfrifiadur, a siwr o fod ar sgrin fawr yn y dyfodol.
Cyllideb: £150 ond gobeithio talu llai.
* * *
Mae nifer o camcorders digidol rhesymol iawn ar y farchnad ar hyn o bryd. Fel arfer, doedd dim un teclyn yn cynnig popeth oeddwn i’n chwilio amdano, felly bu’n rhaid dewis.
Y ddau oedd ar y rhestr fer oedd y Kodak Zi8 a’r Flip Ultra HD.
Kodak Zi8
Manteision:
- Gallu recordio mewn 1080 ar 30ffye (ffram yr eiliad) neu 720 ar 60 ffye
- Input 3.5mm i feicroffon
- Gallu newid cardiau cof
Anfanteision
- Adolygiadau yn amau safon y recordio 1080
- Gorfod defnyddio batri Kodak
- Sefydlogi delwedd (image stabilization) yn cael ei gyhuddo o fod yn aneffeithiol
Pris gorau: £129.99 ar play.com
Flip Ultra HD
Manteision
- Hawdd iawn i’w ddefnyddio
- Canmoliaeth i ansawdd y llun wrth recordio 720 ar 30ffye
- Gallu defnyddio batris AA cyffredin ynddo yn ogystal a’r pecyn rechargable sy’n dod gydag o
Anfanteision
- Dim input i meicroffon - rhaid defnyddio’r meicroffon mewnol
- Cof mewnol yn unig - 8GB (tua 2 awr o recordio)
- Dim recordio 1080
Pris gorau: £86.12 gan FactoryRefurbsDir (rhywfaint o ddifrod i’r pecyn ond y teclyn heb ei ddefnyddio)
Y Penderfyniad
Rwy’n gweld fod Gareth Jones a Gwion Llwyd wedi mynd am y Kodak Zi8. Mae eu sylwadau i’w gweld ar wefan metastwnsh. Y Flip Ultra HD aeth a hi i mi a hynny am y rheswm syml fy mod yn fodlon cymryd y risg o brynu teclyn am bris gostyngol (tua £40 yn rhatach) am fod y pecyn wedi’i ddifrodi.
Pe pai’r pris y ddau wedi bod yn debycach, mae’n siwr y byddwn yn dal i geisio dod i benderfyniad! Yn sicr, mae nifer o fanteision i’r Kodak, ond o edrych ar y clips ar Youtube a darllen yr adolygiadau, efallai fod Kodak yn ceisio cyflawni gormod gyda hwn. Dydw i erioed wedi defnyddio’r Kodak, felly dydw i ddim yn mynd i allu cadarnhau hynny fy hun. Dyna’r drafferth gyda phrynu ar y We.
Mae’r Flip Ultra HD bellach wedi cyrraedd a byddaf yn cyhoeddi adolygiad gydag enghreifftiau o clips fideo yn y dyddiau nesaf.
-

Ar y bwrdd coffi: Little Brother gan Cory Doctorow
-
Adolygiad o ‘Little Brother’ gan Cory Doctorow
‘But you must remember, my fellow-citizens, that eternal vigilance by the people is the price of liberty, and that you must pay the price if you wish to secure the blessing.’ Dyma oedd geiriau Andrew Jackson, seithfed Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei anerchiad ffarwelio ym 1837.
Beth sy’n digwydd pan fo gwyliadwraeth yr awdurdodau yn tramgwyddo ar ryddid y bobl? A oes unrhyw derfyn i’r camau y dylai llywodraethau eu cymryd er mwyn diogelu eu pobl eu hunain? Dyma’r cwestiynau sy’n gefndir i’r nofel afaelgar hon gan Cory Doctorow sy’n dechrau gydag ymosodiad terfysgol ar San Fransisco rhywbryd yn y deng mlynedd nesaf ac ymateb Llywodraeth yr Unol Dalaethiau iddo.
Fe ddes i ar draws Cory Doctorow am y tro cyntaf ar bodlediad This Week in Tech yn rhoi sylwadau ar ddatblygiadau diweddaraf yn y byd technolegol. Yn ogystal ag ysgrifennu nofel, mae Doctorow yn gyd-olygydd y wefan dechnolegol boingboing ac yn cadw gwefan debyg ei hun o’r enw craphound.
Mae diddordeb Doctorow mewn technoleg gyfrifiadurol i’w weld yn gryf ar y nofel Little Brother. Cyflwynir y stori o safbwynt y prif gymeriad Marcus Yallow, bachgen 17 oed sy’n ymddiddori mewn gemau cyfrifiadurol ac yn hacio yn ei amser hamdden. Heb ddatgelu gormod, mae Marcus yn cael profiad annymunol wedi iddo gael ei garcharu yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar amheuaeth o fod yn rhan o’r cynllun. Am weddill y nofel, mae’r darllenydd yn dyst i ymdrechion Marcus i danseilio’r awdurdodau llawdrwm yn San Fransisco ac i adfer ei hawliau o dan gyfansoddiad yr Unol Dalaethiau.
Mae’n stori uchelgeisiol a llwydda Doctorow i’w chyflwyno mewn dull gafaelgar. Gellir gweld rhywfaint o debygrwydd rhwng Little Brother a gwaith George Orwell 1984. Ond nid yw Doctorow yn ymylu ar ysgrifennu campwaith fel ag y gwnaeth Orwell.
Mae gan Little Brother gwpl o wendidau amlwg. Dyma ddau ddaeth i’r meddwl yn syth.
Mae Doctorow yn symud yn rhy gyflym ar ddechrau’r nofel, heb roi digon o amser i ddod i adnabod y cymeriadau cyn y digwyddiad sy’n siapio gweddill y stori. Erbyn tua’r hanner ffordd, mae’r cysylltiad rhwng y darllenydd a Marcus yn teimlo’n llawer mwy cyflawn ac mae’r stori yn cryfhau yn yr ail hanner. Serch hynny, does dim byd yn annisgwyl am y diweddglo.
Nid yw’r agwedd dechnolegol o’r nofel yn mynd i apelio at bawb. Mae Doctorow yn mynd i drafferth ar adegau i geisio esbonio sut yn union y llwydda’r cymeriadau i gyrraedd eu hamcanion, ac fe allai fod yn ddigon i ambell ddarllenydd golli diddordeb yn y nofel.
Wedi dweud hynny, os oes gennych ddiddordeb mewn technoleg, consyrn dros ymateb llywodraethau i’r bygythiad o ymosodiad terfysgol, ac yr ydych yn chwilio am nofel ddarllenadwy, rwy’n siwr y cewch chi flas ar hon.
Little Brother gan Cory Doctorow - 3.75 allan o 5.
-
Henry Jenkins yn gwneud sylwadau diddorol am ‘gymunedau gwybodaeth’ ar-lein yng nghyd-destun y gyfres realaeth Survivor. #convergenceculture
-
Edrych yn benodol ar ‘spoilers’ sy’n ceisio cael cymaint o wybodaeth a phosib am y gyfres rhwng ei ffilmio a’i darlledu! #convergenceculture
-
Oes rhywun wedi bod yn gwylio cyfresi Mad Men? Werth eu gweld?
-
RT @constantslimmer: Look where some clever bugger parked his TARDIS - http://snapshot.orange.co.uk/uxaw9v
-
Dwy flynedd i’r diwrnod o fywyd priodasol hapus efo @elin_mair! :)
-
Mae gen i bar o trainers sydd wedi diflannu. Does gen i ddim syniad lle mae nhw! Dechrau meddwl mod i wedi’u gadael nhw yn Iwerddon.